#100 Y Ganfed Gerdd

Heddiw’n grwn croniclwn ni’r
Hysterics i greu stori.

I bedwar ban o’n hannedd
Drwy’r byd heb symud o’n sedd.

Ar dramp aed i droedio’r we
A’r hewl ar goll yn rhywle.

Diolch gan lu’r canu caeth
I’n holl noddwyr llenyddiaeth!

 

Wedi ei chyd-gyfansoddi gan feirdd Her 100 Cerdd

#98 Talwrn Ysgol y Preseli

Yng nghesel y Preseli – yn y mawn
Ac mewn yn y trefi,
Yn eich iaith a welwch chi
Ŵyl wahanol eleni?

#96 I Jac a Iona ar eu Priodas Ruddem

Ar ras i Bant-glas mae’r glêr – fel erioed,
Fel rhyw haid am swper,
Ond yntau’r mab o Aber
A’i fawl o hyd yn aflêr.

Mae’r ŵyr yn hwyr â’i eiriau – fel erioed,
Yn flêr iawn ei odlau,
Ond mae’n ffaith – am unwaith mae
Ei dôn yn un â’i dannau!

Torrwch i Jac y gacen – a chanwch
I Iona yn llawen,
Mae pawb yma gyda gwên
A’u nai yn llawn o awen!

Jac a Iona’n y canol – a’r teulu’n
Reit dalog yn canmol,
Dewch, dawnsiwch heno bobol
Dan wers y dyn ar y stôl.

Ddeugain mlynedd i heddiw – fe’u hunwyd
A’u cyfannu’n unlliw,
Ymwroli’n amryliw,
I’r ffrind a’r hoff heno’n driw.

Boed hapusrwydd a llwyddiant – ichi’ch dau,
Ewch o’ch dydd i’ch haeddiant,
A rhoi yma’n llawn rhamant
Un cwrs at yr hanner cant!

#95 Merch ar goll (II)

Mae’r bedwaredd noson fel blanced drosom
yn hydrefol a gwlyb, yn dwyn ein hanadl
o’r ffroenau dig,
y paderau tawel a’r fflamau gwan;
bydd amenio cyn cyrraedd bonyn y cwyr,
er bod hwnnw bron â bod wedi’i fwyta’n llwyr.

#99 Harri a Gwion

(fy neiaint)

Y mae Harri a Gwion
yn dod o hyd fel dwy don
i’n traeth, ac anturiaethau
a ddaw o nunlle i’r ddau.

Eu dwy wên ddrwg a’u gwg wych
a fynnaf weld yn fynych
yn y Bwthyn gobeithiol
sy’n ffau i’r ddau ar y ddôl.

Dau frawd glân hoff o lanast
ond dau frawd a dyf ar hast.

#93 Hyddgen

Pan fo’r fawnog dan glogyn
A’r cymylau’n garpiau gwyn,
A lonydd dros Bumlumon
Yn barhad o’r nentydd, bron,
I droedio draw drwy y drain,
Yno daw catrawd Owain
At yr Hyddgen sy’n denu
beirdd y wlad mewn dillad du.

#89 Maes yr Yrfa

(ar gais Carys Edwards)

Ym Maes yr Yrfa bum i yn fy iaith
fy hun yn ei gwersi
ac yma’r Gymraeg imi’n
iaith yr iard rhwng naw a thri.

#84 Diymadferth

Heno mae’r delweddau’n pallu dod.
Yr awydd yn arafu,
Geiriau’n glynu yn ei gilydd
Ac yn gwrthod gadael fynd,
Nid blinder,
Mae coffi’n cadw hwnnw wrth y drws.

Yn y cefndir y mae’r bwletinau byw,
straeon yn ailadrodd bob rhyw awr,
rhyfelgwn eto’n dadle ar y sgrin,
hanes yn datguddio cythreuliaid,

a’r tu allan, nawr ac yn y man
mae seirennau’n sgrialu drwy’r pentre,
chwilolau hofrenyddion dros yr afon,
braw y nos yn bolltio’r drws
a dagrau pedwar ban yn gwlychu’r lôn.

Heno, mae’r delweddau’n pallu dod.

#82 Blinder yr her

Rwyf innau wedi blino,
mae fy mhen yn teimlo’n drwm,
mae’r feiro bellach bron yn sych
ac mae’r eirfa’n mynd yn llwm.

Mae f’ysgwyddau’n dynn fel lleder,
mae’r coffi di rhedeg mas,
ond er hyn oll rwyf innau’n
dal i drio fy ngorau glas.

Rhaid imi ddal ati i sgwennu
oherwydd, nefoedd wen,
petaem ni’n methu cyflawni’r her
bydd BARDDONIAETH YN DOD I BEN!

#81 I Chwaer Fach Leusa

Pwy sy’n gwenu’n ddrygionus,
Yn rhyw hoff o Meic a Rhys
A Brit? Pwy sy’n gampwraig bro
Ar rysêt y risotto?

Pwy’r ferch fach â’r gath fach, fân
Â’i swêd a’i sanau sidan?
Pwy’r ferch wen ar dad heno
Sy’n chwarae triciau bob tro?

I Leusa, hi yw’r dlysaf –
Siŵr iawn, hi yw Seren Haf!

#79 I Savi’r Ci Defaid

Ci bychan bwyteig ydi Savi,
boed datws neu boed yn wasabi,
heb anghofio’r carped
a’r cyrtens pob tamed
mae’n wyrthiol nad ydyw yn pesgi.

#77 Diwrnod y Llyfr

Mae J.K Rowling a T. Llew

A D.J, Marx ac Orwell

Yn gyrru mlaen yn weddol dda

Er bod D.J. yn dawel,

Fe’u gwasgwyd nhw yn dynn, dynn iawn

Ar ochr chwith y silffoedd llawn.

 

Mae Saunders a Kate Roberts nawr

Yn cael tam’ bach o lonydd

Er bod Prysor, Nei a Pod

Yn codi sŵn digywilydd,

Yr unig un sy ddim yn iach

Yw Solzhenitsyn druan bach.

 

Mae’n waith cael  trefen arnyn nhw,

Rhai precious yw awduron,

Ac mae’r prifeirdd ganmil gwaeth

Ar silffoedd y llenorion.

Ond wrth gau’r drws, mor ddifyr yw

Dychmygu bod y geirie’n fyw.

 

 

#74 Heno

Heno, dewch am drafodaeth – gynnes iawn,
Gwên a sŵn cymdogaeth,
A mwynhau holl gwmnïaeth
Soffa hir iawn a sgwrs ffraeth.

#73 I Glwb Pêl-droed Trawscoed

(ar gais Dic Evans)

Ewch, da chi, i Wembley wyn – prynwch focs
Yn Ibrox arobryn,
Cae Ras a’r aceri hyn –
Pa hud fel Ca’ Siop wedyn?

Yn y fan mae Barca’n bod – Iniesta
Ar lan Ystwyth hynod,
Xavi a Dani sy’n dod
A Messi yn ymosod.

Eilunod ar y linell – yn y gôl
Arwyr gwych, ac ambell
Un o bwys na bu ei well
I Drawscoed ar yr asgell.

Ond o nawr nes daw’n hwyrnos – ar y lôn,
Ar y lein bob wythnos,
Yn y ddaear yn aros
Bydd Peter Bonner, y bos.

20121004-184050.jpg

#72 Y Talwrn

O safbwynt y pencampwyr!

Hel sgôr uchel a throi’r sgriw yn dynn, dynn
yw ein dawn unigryw;
maes rhedeg mesur ydyw,
maes y gad i’n miwsig yw!

#67 Ail i Glwb Peldroed Lerpwl

(I Mrs Jackson – YNWA)

Paid holi be dwi’n neud, dwi’n gwylio Sky,
Ma kick off Lerpwl-Everton am ddau.

Ti eisie mynd i siopa? Dwi’m yn rhydd.
Mae’r transfer window bwysig mlaen drwy’r dydd.

Gwagio’r bins a golchi’r llestri? Be?
Dwi’n gwylio DVD gols llynedd, ‘ce?

Dwi isie galw’r budgie yn Dalglish,
Oce, wel be am Rush te? Nage? Sheesh!

Os wyt ti’n ail i Lerpwl, cofia hyn,
Roedd Paisley’n ail i Shankly, ‘nghariad gwyn.

#60 I’r Glas-ddarlithwyr

(ar gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

Ddarlithwyr! Nac anghofiwch chi
Eich bod, un tro, o’n hochor ni,
Cyn clod a mawl a pharch a bri,
Yn un o’r haid
O bobol iau a dalodd ffi
Am ddysg, o raid.

Boed hynny’n gysur mawr i ddyn,
Na fedrwn ni, er cynddrwg llun
Sy arnom, fod lot gwaeth na’r un
Sy ger ein bron,
Sy’n gorfod aros bellach ar ddihun
Drwy’r ddarlith gron.

#58 Porthorion

Mi fum yn meddwl ganwaith
Wrth gerdded mewn i’r Gen,
Ysgwn i be ddigwyddai
Pe bawn i off fy mhen

Yn ceisio cerdded allan
A chyfraith Hywel Dda,
Neu Lyfr Du Caerfyrddin,
Neu gopi o Which Car?

A fyddai’r porthor hynaws
Fel brawd o’r CIA
Yn neidio’n wyllt o’i guddfan,
Ac yna’n gweiddi ‘Hei!’

Neu a fyddai’n codi
Ei lygaid craff o’r llawr
A ‘nghyfarch i yn addfwyn
‘Nos da. Pob hwyl ‘ti nawr.

 

#56 Yr Arolwg

(ar gais Siân Harris)

Athrawon ar eu cythlwng
A’r pennaeth fawr ddim gwell,
Yr hen lanhawr hynaws
Yn crio yn ei gell,
Daeth llythyr trwm, trwm iawn o’r Sir –
‘Bydd Arolygwyr draw cyn hir.’

Mae’r plant yn rhyw synhwyro
Bod rhywbeth ddim yn iawn,
Athrawon cynorthwyol
Yn sibrwd drwy’r prynhawn –
‘Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd …
Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd!’

O fore gwyn hyd hwyr y nos
Mae’r ysgol ar ddihun,
Y gŵr a’r plant yn mopio’r llawr
A’r ci yn paentio llun,
Ond bydd hi’n ysgol wych pan ddaw
Yr Arolygwyr ‘ma am naw.

#51 Canol oed nid canol y ffordd

(I ddathlu penblwydd Gareth Lewis, sy’n 40 heddiw)

Cei brynu’r Porsche a’r Harley,
A’ r Les Paul, sgleiniog, crand,
Er nad oes gen ti drwydded,
Ac er nad wyt mewn band.
Cei chwarae’r heavy metal,
Pen-doncio’n wyllt fel gordd,
Oherwydd bo ti (jyst) yn ganol oed,
Ac nid yn ganol y ffordd.