Y Beirdd

Osian Rhys Jones yw un o sefydlwyr noson farddol boblogaidd Bragdy’r Beirdd a gaiff ei chynnal yng Nghaerdydd, ond bydd yn rhaid iddo wneud yn siŵr fod ganddo ben clir fel cloch i aros ar ei draed am 24 awr. Wedi dechrau potsian hefo Tîm Talwrn Y Glêr yn 2004 mae Osian wedi perfformio cerddi dwys a digri mewn stompiau, talyrnau, ymrysonau, sioeau llenyddol a gŵyliau ar draws Cymru.

 

 

Eurig Salisbury yw Bardd Plant Cymru 2011-2013, ond gobeithio nad yw’n credu mai chwarae plant fydd yr her hon. Mae’n awdur ar ddwy gyfrol o gerddi, Llyfr Glas Eurig (Barddas, 2008) a Sgrwtsh (Gomer, 2011). Mae Eurig wedi ennill sawl cadair yn cynnwys cadair Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2006 a tair o gadeiriau’r Eisteddfod Rhyng-golegol.

 

 

Enillodd Hywel Griffiths wobr Tir na n-Og 2011 am ei nofel i blant, Dirgelwch y Bont (Gwasg Gomer, 2010), ac mae’n dipyn o ddirgelwch sut y mae’n bwriadu cwblhau’r Her Cant o Gerddi. Enilliodd Hywel Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch yn 2008, a chadeiriau Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn yn 2004, ac eto yn Sir Gâr yn 2007.

 

 

Rhwng Eisteddfod yr Urdd 2007 ac Eisteddfod yr Urdd 2008 cyfansoddodd Iwan Rhys, Prifardd yr Urdd 2001 a 2008, englyn bob dydd, a’u cyhoeddi mewn cyfrol o’r enw Eleni Mewn Englynion (Gwasg Carreg Gwalch, 2008). Ond tybed a fydd yn gallu cyfansoddi englyn pob awr? Iwan oedd ennillydd Stomp y Steddfod 2011.

Gadael sylw