#58 Porthorion
Mi fum yn meddwl ganwaith
Wrth gerdded mewn i’r Gen,
Ysgwn i be ddigwyddai
Pe bawn i off fy mhen
Yn ceisio cerdded allan
A chyfraith Hywel Dda,
Neu Lyfr Du Caerfyrddin,
Neu gopi o Which Car?
A fyddai’r porthor hynaws
Fel brawd o’r CIA
Yn neidio’n wyllt o’i guddfan,
Ac yna’n gweiddi ‘Hei!’
Neu a fyddai’n codi
Ei lygaid craff o’r llawr
A ‘nghyfarch i yn addfwyn
‘Nos da. Pob hwyl ‘ti nawr.
@LlenCymru Cawn gerdd am borthorion @LLGCymru os gwelwch yn dda? @eurig @HywelGriffiths #her100cerdd - edrychwn ymlaen i'w darllen!
—
Llyfrgell Gen Cymru (@LLGCymru) October 04, 2012