Category: Osian
#100 Y Ganfed Gerdd
Heddiw’n grwn croniclwn ni’r
Hysterics i greu stori.
I bedwar ban o’n hannedd
Drwy’r byd heb symud o’n sedd.
Ar dramp aed i droedio’r we
A’r hewl ar goll yn rhywle.
Diolch gan lu’r canu caeth
I’n holl noddwyr llenyddiaeth!
Wedi ei chyd-gyfansoddi gan feirdd Her 100 Cerdd
#95 Merch ar goll (II)
Mae’r bedwaredd noson fel blanced drosom
yn hydrefol a gwlyb, yn dwyn ein hanadl
o’r ffroenau dig,
y paderau tawel a’r fflamau gwan;
bydd amenio cyn cyrraedd bonyn y cwyr,
er bod hwnnw bron â bod wedi’i fwyta’n llwyr.
#90 NYTTARS
Mae Meibion Glyndŵr yn enw cyfarwydd,
FWA, MAC ac eraill sydd ddim mwy na myth:
ond y pennaf o’r mudiadau yma i gyd
heb os ydi Nyttars am Byth!
So, pw nath hwn yn G-Town? Gawn ni gerdd ir graffiti yma plis? @llencymru #her100cerdd sdrv.ms/SKZLC8
—
d meurig (@normanpreis) October 04, 2012
#88 Penmaenmawr
Ni thâl ddiota wyth awr yn y dydd;
rhaid diodde’n ddirfawr;
yn y man cei Benmaenmawr.
@llencymru Llongyfarchiadau i chi gyd hyd yn hyn. Beth am gerdd am ddioddef ar ol noson wyllt? Fel y byddwch chi fory dwi'n siwr! x
—
Lleucu Gruffydd (@lleucsg) October 04, 2012
#85 Ffrwchnedd
Ffrwchnedd sy’n cynganeddu’n
dda iawn, boed felyn neu ddu.
@LlenCymru #her100cerdd Ar y thema 'Ffrwchnedd' plis.
—
Rhys Iorwerth (@rhysioro) October 04, 2012
#83 I Fordaith Dai ac Elaine
Gwelaf borffor y môr maith – yn eang
dan awyr las berffaith
a Dai ac Elaine ar daith
ar ruban disglair o obaith
@LlenCymru Cerdd i Dai Dai ac Elaine, cyn athrawon sy’n mwynhau bywyd ers ymddeol? Criws byd 118 diwrnod wedi’i drefnu yn 2014! #Her100cerdd
—
Sian Elin Davies (@sianblewyncoch) October 04, 2012
#79 I Savi’r Ci Defaid
Ci bychan bwyteig ydi Savi,
boed datws neu boed yn wasabi,
heb anghofio’r carped
a’r cyrtens pob tamed
mae’n wyrthiol nad ydyw yn pesgi.
@LlenCymru oes modd i ni gael cerdd i'n ci bach, Savi, sydd wedi bwyta bron popeth yn ein tŷ ni dros y misoedd diwethaf! Ci defaid ydi o.
—
Gwenllїan Carr (@gwenlliancarr) October 04, 2012
#72 Y Talwrn
#64 Ta-ra Julian
Haliwn, â rhaff, Julian Ruck
yn saff i bellter Suffolk!
@LlenCymru Beth yw barn y beirdd am benderfyniad y nofelydd byd enwog, Julian Ruck, i adael Cymru? thisissouthwales.co.uk/Author-s-blast… #her100cerdd
—
Hedd Gwynfor (@heddgwynfor) October 04, 2012
#63 Ein hiaith
Mae ein hiaith, mi wn, weithiau, yn downer,
ond ynom bydd hithau,
mae ynom, ti a minnau,
mae ynom ni i’w mwynhau.
@LlenCymru dyn ni'n ceisio ffeindio ffyrdd o annog myfyrwyr 16-18 oed i siarad Cymraeg...oes modd cael cerdd i helpu plis?! #her100cerdd
—
Rhi (@smileyrhi) October 04, 2012
#54 2,000 o gerddorion Cymraeg yn torri oddi wrth y PRS
ar gais Golwg
Bunt wrth bunt ni ddaw’r un budd o’u cadw
‘mhocedi hen gybydd;
hawliwn ni â’r ddêl newydd
y gwir werth o’r geiniog rydd.
#47 Ras Arlywyddol
Os wyt yn pendroni, neu’n hytrach yn ama’,
a fedri roi fôt dros rethreg Obama,
Dim ond iti wrando am eiliad ar Mitt,
Cei ddeall yn llawn beth yw ystyr ‘twit’!
#46 Pwysigrwydd Defaid
Pwysigrwydd defaid, i’r sawl nad yw’n gwybod,
yw galluogi Trawsfynydd gael ei sbotio o’r gofod.
@LlenCymru be am gerdd ar bwysigrwydd Defaid? #Her100cerdd
—
Anni Llyn (@trydanni) October 04, 2012
#44 Erch, Rheidol a Thaf.
Mae’r dyffrynnoedd i gyd yn agor ynom
yn dad-blygu’u mapiau cyfarwydd
o’n blaenau;
ac wrth ddilyn â’n bysedd Erch, Rheidol a Thaf,
yn golchi’r tirlun i’w haber ac yn ôl
yr un osgo sydd i’w heiddo o’u darllen yn llwyr.
Er pan nyddwyd afon i’m deall innau
gallaf ddilyn, fel un, yr holl drywyddau
heb edrych ar fap, a deall yr enwau.
#37 Croesawu myfyrwyr newydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Gramadeg yw her Medi – Yn Ionawr
cawn win y baledi,
a’i wagio’n Fabinogi;
ond daw Mai â chlod i mi!
@LlenCymru A fyddai modd cael cerdd i groesawu myfyrwyr newydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd os gwelch yn dda? #her100cerdd
—
Ysgol y Gymraeg (@ysgolygymraeg) October 04, 2012
#35 Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd
Y Cyw olaf drwy’r coleg, er ei thwf,
yw’r iaith hon. Mae rhethreg
erbyn hyn i’w dysgu’n deg,
o wareiddio pob brawddeg.
#34 CPD Wrecsam
Fforddiwyd, yn gloff, ei urddas ond ‘leni’n
dal yno o’n cwmpas
mae’r sêr yn un â’r teras,
yn griw â’u hawl ar Gae Ras
#31 Caru Esgid
Mae esgid newydd
yn gwasgu fymryn;
ond o’i gwisgo’n feddal
mae hi’n ddihafal wedyn.
#27 Goatee Hywel
(Tyfodd y prifardd goatee yn ddiweddar)
Tywyll yw goatee Hywel, ar ei ên
Mae o’n drwch aruchel,
Dyma wâl i’w fwyd ymhel
Ac i uwd suro’n gawdel!
#20 CF11
Fe wn ‘mod i yma,
mae’r graffiti yn dweud,
y graffiti na feiddiodd
neb ei ddadwneud:
‘CF11’
yn ffin rhwng ffrindiau,
sy’n uno’r gelynion
sydd wastad yn maddau.
Carreg filltir
heb ben draw i’r daith,
ac arwydd “croeso”
ac “ewch o’ma” yn un iaith.
Y paent gwrthryfelgar
mor deyrngar ei neges,
sy’n mynnu ein pechu,
ond eto’n gwneud cyffes.
Ar draws y Taf,
ar y waliau noethion,
wrth wylio’r ddinas
yn torri’i chalon
a’i hamlinell newydd
yn codi’n uchel,
CF11
sy’n gwarchod y gorwel.
#17 ‘Bedyddio Seth Teifi Morris’
Ar gais Casia Wiliam
Nid ei waedd a fedyddiwn – nid ei wên
fach daer a fendithiwn,
ond â’n gras, i’w fyd yn grwn,
hen wareiddiad a roddwn.
@uwchbeirddybyd Seth Teifi Morris, ei eni 22.5.12, bedydd 28.10.12, babi Sian a Rhys...sho gwbod unryw beth arall?
—
Casia Wiliam (@Casia_Lisabeth) October 03, 2012
#13 Fy nghyllell boced ar gyfer bob dim
Ar gais Elfed Dafis
Fy nghyllell boced ar gyfer bob dim,
mae’n torri bara a physgod chwim.
Hi holltodd ran helaeth Carreg yr Imbill,
fe dorrodd hon dwll yn yr o-sôn dywyll,
mae’n gymorth da wrth godi pebyll,
fy nghyllell hyblyg i.
Mae’n crafu’r baw o dan ewinedd,
mae’n dallt yr acen mewn cynghanedd,
mae’n gwneud y tro i olchi’r dannedd,
fy nghyllell ddihafal i.
Gall gofio penblwyddi, gall dynnu lluniau,
gall fynd â’r ci am dro i’r traethau
hyn oll heb adael fy mhoced innau,
fy nghyllell ddifai i.
Aiff hon â mi’r holl ffordd i’r lleuad,
mi ddysgith hon i’r bochdew siarad,
mi fedrith wnïo o wlanen dafad
fy nghyllell boced i
sy’n torri’r bara a’r pysgod chwim,
fy nghyllell boced ar gyfer bob dim.
#12 Superted
Gemau Paralympaidd
Fe’m taflwyd innau i’r domen sbwriel
a’m barnu’n ddiwerth ar gownt y rhyfel;
roedd nam ar y goes, a’r llygaid yn niwlio,
ac eco ffrwydradau’n fy nghadw’n effro.
Dyw’r byd mawr ddim yn cerdded ar faglau a ffyn.
Un noson trwy’r hunllefau daeth golau gwyn
ag angel i ‘nghyffwrdd a gwefru’r gwythiennau,
gan ledu ‘ngorwelion ac ystwytho’r cymalau:
rwyf eto’n ddyn, fel ‘tae’r cepyn amdanaf
ar faes cad y Gemau sy’n gweiddi “Gallaf!”
#9 Tafwyl
Ar lawntiau hafau ein hiaith – yn dyner
lledaenwn y gwrtaith
nes, cyn hir, gweld gwyrddni’r gwaith
yn Dafwyl frwd ei hafiaith.
@LlenCymru @gwylarall a beth am @tafwyl? bydde cerdd i'w chynnnwus ar wefan yr wyl yn wych!!!!! #her100cerdd
—
Menter Caerdydd (@MenterCaerdydd) October 02, 2012
#7 Soned arall yn y nos
Disgynnodd y nos dros swildod Caerdydd
yn drwsgwl a gwlyb fel glasfyfyrwyr
yn cusanu’u rhyddid ar ddiwedd dydd.
Mae Heol yr Eglwys yn gwisgo’i cholur,
a sgerti byrion ar hyd Santes Fair;
sŵn gweiddi’r bechgyn fel chwalu gwydyr
wrth godi’u dyrnau dros ddwy neu dair.
Mae eco sy’n aros mor ddiwahân
yn taflu lleisiau o bell ac agos
drwy’r strydoedd gweigion sy’n llawn ysbryd glân,
cariad a chasineb criwiau unnos.
Wedi i’r bore sgubo neithiwr o’r stryd,
bydd oglau’r glaw mân ar ein dillad o hyd.
#6 I pendics Mererid Haf
@LlenCymru Newydd gael llawdriniaeth i dynnu pendics.... Fyse cerdd goffa / marwnad i'r penics coll yn codi nghalon i! #her100cerdd
—
Mererid Haf (@Mereridhaf) October 02, 2012
Wedi awr fy hysterics a’r boen oll
erbyn hyn rwy’n ffenics;
nid cloff wyf, wedi cael ffics
i’r poendod ar y pendics.
Tripiau a gaf i’r tropics – es i weld
holl sioe yr Olympics;
heno, peth i’r co’, fel Kwiks,
yw’r poendod ar y pendics.
#4 Merch ar goll (chwilio)
Gŵylnos o ganhwyllau ar y drydedd noson;
lle mae’r morfa’n ymagor, ond yn celu’r gorwelion,
ac anadl y byd rhwng y dref a’r afon.
Mae cysgodion gobaith ym mhantiau’n hasennau
lle mapiwyd y tirwedd yn hegar i’n hochrau,
a’r Ddyfi’n llwyd ym mhyllau ein llygadau.
Ond tra bod yr anwybod fel fflam yn llosgi,
fe ddown ynghyd a rhannu gweddi
mewn gŵylnos o olau, a’r cŵyr yn toddi.