#51 Canol oed nid canol y ffordd
(I ddathlu penblwydd Gareth Lewis, sy’n 40 heddiw)
Cei brynu’r Porsche a’r Harley,
A’ r Les Paul, sgleiniog, crand,
Er nad oes gen ti drwydded,
Ac er nad wyt mewn band.
Cei chwarae’r heavy metal,
Pen-doncio’n wyllt fel gordd,
Oherwydd bo ti (jyst) yn ganol oed,
Ac nid yn ganol y ffordd.