#67 Ail i Glwb Peldroed Lerpwl
(I Mrs Jackson – YNWA)
Paid holi be dwi’n neud, dwi’n gwylio Sky,
Ma kick off Lerpwl-Everton am ddau.
Ti eisie mynd i siopa? Dwi’m yn rhydd.
Mae’r transfer window bwysig mlaen drwy’r dydd.
Gwagio’r bins a golchi’r llestri? Be?
Dwi’n gwylio DVD gols llynedd, ‘ce?
Dwi isie galw’r budgie yn Dalglish,
Oce, wel be am Rush te? Nage? Sheesh!
Os wyt ti’n ail i Lerpwl, cofia hyn,
Roedd Paisley’n ail i Shankly, ‘nghariad gwyn.
gwych gwych gwych – Paul bach wrth ei fodd! Mrs Jackson