Category: Eurig
#100 Y Ganfed Gerdd
Heddiw’n grwn croniclwn ni’r
Hysterics i greu stori.
I bedwar ban o’n hannedd
Drwy’r byd heb symud o’n sedd.
Ar dramp aed i droedio’r we
A’r hewl ar goll yn rhywle.
Diolch gan lu’r canu caeth
I’n holl noddwyr llenyddiaeth!
Wedi ei chyd-gyfansoddi gan feirdd Her 100 Cerdd
#98 Talwrn Ysgol y Preseli
Yng nghesel y Preseli – yn y mawn
Ac mewn yn y trefi,
Yn eich iaith a welwch chi
Ŵyl wahanol eleni?
#96 I Jac a Iona ar eu Priodas Ruddem
Ar ras i Bant-glas mae’r glêr – fel erioed,
Fel rhyw haid am swper,
Ond yntau’r mab o Aber
A’i fawl o hyd yn aflêr.
Mae’r ŵyr yn hwyr â’i eiriau – fel erioed,
Yn flêr iawn ei odlau,
Ond mae’n ffaith – am unwaith mae
Ei dôn yn un â’i dannau!
Torrwch i Jac y gacen – a chanwch
I Iona yn llawen,
Mae pawb yma gyda gwên
A’u nai yn llawn o awen!
Jac a Iona’n y canol – a’r teulu’n
Reit dalog yn canmol,
Dewch, dawnsiwch heno bobol
Dan wers y dyn ar y stôl.
Ddeugain mlynedd i heddiw – fe’u hunwyd
A’u cyfannu’n unlliw,
Ymwroli’n amryliw,
I’r ffrind a’r hoff heno’n driw.
Boed hapusrwydd a llwyddiant – ichi’ch dau,
Ewch o’ch dydd i’ch haeddiant,
A rhoi yma’n llawn rhamant
Un cwrs at yr hanner cant!
#91 Ar Enedigaeth Erin Medi
Er oered, hired yr ha’ – yn Nefyn,
Yn Nheifi, mi wela’
O bell fod pethau’n gwella
Am fod Erin Medi ‘ma.
#87 I Raglen Nia Roberts
Ebe Sobin, ‘ma’r ogia go iawn
Yn cael mwy o hwyl yn y pnawn,’
Ar ôl imi wrando
Drwy’r dydd ar y radio
Dwi’n sicir ei fod o yn iawn!
#86 Rwy’n ♥ Dyffryn Ceiriog
Erw Gerrig, Tregeiriog – a bro’r Waun,
Pen-y-bryn, Pontfadog,
O dai’r Glyn i dir y Glog –
Rwy’n caru Dyffryn Ceiriog!
#81 I Chwaer Fach Leusa
Pwy sy’n gwenu’n ddrygionus,
Yn rhyw hoff o Meic a Rhys
A Brit? Pwy sy’n gampwraig bro
Ar rysêt y risotto?
Pwy’r ferch fach â’r gath fach, fân
Â’i swêd a’i sanau sidan?
Pwy’r ferch wen ar dad heno
Sy’n chwarae triciau bob tro?
I Leusa, hi yw’r dlysaf –
Siŵr iawn, hi yw Seren Haf!
#76 ‘Papur Tŷ Bach Tsiêp’
(ar gais Heledd ac Aled Morgan)
Roedd Wiliam yn dipyn o gybydd,
Ni phrynai’r stwff drud ac, o’r herwydd,
Un dydd ar y pan
Aeth ei fys e reit lan
Drwy’r papur i fan digywilydd.
#74 Heno
Heno, dewch am drafodaeth – gynnes iawn,
Gwên a sŵn cymdogaeth,
A mwynhau holl gwmnïaeth
Soffa hir iawn a sgwrs ffraeth.
#73 I Glwb Pêl-droed Trawscoed
(ar gais Dic Evans)
Ewch, da chi, i Wembley wyn – prynwch focs
Yn Ibrox arobryn,
Cae Ras a’r aceri hyn –
Pa hud fel Ca’ Siop wedyn?
Yn y fan mae Barca’n bod – Iniesta
Ar lan Ystwyth hynod,
Xavi a Dani sy’n dod
A Messi yn ymosod.
Eilunod ar y linell – yn y gôl
Arwyr gwych, ac ambell
Un o bwys na bu ei well
I Drawscoed ar yr asgell.
Ond o nawr nes daw’n hwyrnos – ar y lôn,
Ar y lein bob wythnos,
Yn y ddaear yn aros
Bydd Peter Bonner, y bos.
#65 I Bobl Sinsirwallt
O Bahrain i bier Rhyl,
O Brasil i Abersoch,
Heb os, nid âi neb sy’n dallt
I liwio gwallt Iolo Goch!
#60 I’r Glas-ddarlithwyr
(ar gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
Ddarlithwyr! Nac anghofiwch chi
Eich bod, un tro, o’n hochor ni,
Cyn clod a mawl a pharch a bri,
Yn un o’r haid
O bobol iau a dalodd ffi
Am ddysg, o raid.
Boed hynny’n gysur mawr i ddyn,
Na fedrwn ni, er cynddrwg llun
Sy arnom, fod lot gwaeth na’r un
Sy ger ein bron,
Sy’n gorfod aros bellach ar ddihun
Drwy’r ddarlith gron.
#59 I Eirlys (mam fy nghariad!)
#56 Yr Arolwg
(ar gais Siân Harris)
Athrawon ar eu cythlwng
A’r pennaeth fawr ddim gwell,
Yr hen lanhawr hynaws
Yn crio yn ei gell,
Daeth llythyr trwm, trwm iawn o’r Sir –
‘Bydd Arolygwyr draw cyn hir.’
Mae’r plant yn rhyw synhwyro
Bod rhywbeth ddim yn iawn,
Athrawon cynorthwyol
Yn sibrwd drwy’r prynhawn –
‘Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd …
Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd!’
O fore gwyn hyd hwyr y nos
Mae’r ysgol ar ddihun,
Y gŵr a’r plant yn mopio’r llawr
A’r ci yn paentio llun,
Ond bydd hi’n ysgol wych pan ddaw
Yr Arolygwyr ‘ma am naw.
#53 I Chweched Dosbarth Ysgol Bro Myrddin
#49 I Bethan ar ei Phen Blwydd yn 16
(ar gais Nia Donnelly)
Bethan, er bod byw weithiau’n anodd, wir,
O ddod drwy’r arddegau
Fe fyddi’n bendifaddau
 dim i’w wneud ond mwynhau!
#43 I Fetsan Feichiog
Llowcia di’r cyri, y tsili a’r tsips,
Rho naid lan yn uchel a pinsha dy nips,
Neidia ar gefn quadbike ac yna i’r twb,
Un twym, twym iawn (a chofia gael scrwb),
Ac os nad yw’r babi dal ddim am ddod mas,
Mae rhyw’n lot o help, a hynny ar ras!
#41 ‘One Nation’
(ar gais Golwg)
Ai Dave ai Ed a fu, wir,
Wrth ei waith areithio hir
Yn creu pont i uno’n tir?
Un genedl, un ddisgynneb,
Un hen wên, un wlanen wleb,
Un dyn o wellt nad yw’n neb.
#36 ‘Hi, Everybody!’ … ‘Hi, Dr Hywel!’
#18 I Ysgol Farddol Caerfyrddin
Â’r Tanerdy’n ail-lunio
Ambell stafell, nid oes do
Dros y beirdd yn y dre, sbo.
Ac fe fu’r Tanerdy’n hir
Yn llety hardd, yn well tir
Na llawer gwter, ‘na’r gwir.
Bu’n Ddinefwr i’w twrw,
Yn Gaer â’i llond o gwrw,
Yn Ddin Eidyn iddyn nhw.
Ble’n awr heb le’n awr y blŵs?
Ble’n awr heblaw hen warws?
Ddoe heb ddrat, heddiw heb ddrws.
Rhowch dŷ o’r gwter, werin,
I gynnau tân i gan tin
Ysgol Farddol Caerfyrddin!
#16 Obama 2008/2012
‘Gall, fe all’, nid ‘efallai’,
Nid ‘pam?’ wael iawn, ond ‘pam lai?’
#14 Yr Heriwr
(i bapur newydd Cymraeg gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth)
Mor hawdd yng Nghymru heddi – troi at air
Y Times, Guardian, Indy …
Diolch fod rhai heb dewi
 chalon i’n herio ni.
#11 Cacen Battenberg
#10 Glaw
#5 I Ddawnswyr Nantgarw
(ar eu taith i ŵyl ddawns yn Ne Corea ddiwedd y mis)
Boed difraw’r daith drwy’r awyr
A boed eich taith faith yn fyr,
Ac yn wir, yn Nhír na nÓg,
Boed yno groeso gwresog.
Boed pob un droed ar redeg
Ar hast wyllt yn un rhes deg,
A’i hannel hi fwy neu lai’n
Unionsyth, eich cri’n unsain,
Boed di-stop sbîd y stepio,
Drachefn, boed trefn i bob tro.
A boed i’r De Coreaid
Gyda ni’r Cymry’n un haid
Lawenhau pan welan’ nhw
Hetiau gwerin Nantgarw!