#73 I Glwb Pêl-droed Trawscoed
(ar gais Dic Evans)
Ewch, da chi, i Wembley wyn – prynwch focs
Yn Ibrox arobryn,
Cae Ras a’r aceri hyn –
Pa hud fel Ca’ Siop wedyn?
Yn y fan mae Barca’n bod – Iniesta
Ar lan Ystwyth hynod,
Xavi a Dani sy’n dod
A Messi yn ymosod.
Eilunod ar y linell – yn y gôl
Arwyr gwych, ac ambell
Un o bwys na bu ei well
I Drawscoed ar yr asgell.
Ond o nawr nes daw’n hwyrnos – ar y lôn,
Ar y lein bob wythnos,
Yn y ddaear yn aros
Bydd Peter Bonner, y bos.