Yr Her
2012
Ar 4 Hydref 2012, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, sefydlodd Llenyddiaeth Cymru her newydd sbon, sef gofyn i bedwar bardd gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol, a hynny mewn 24 awr yn unig. Y beirdd cyntaf i ymgymryd – a llwyddo i gwblhau yr her oedd tîm Talwrn Y Glêr, sef Eurig Salisbury, Osian Rhys Jones, Iwan Rhys a Hywel Griffiths. Gallwch ddarllen eu cerddi drwy glicio yma.
2013
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2013, sef 3 Hydref, penderfynodd Llenyddiaeth Cymru ail-adrodd yr Her. Y beirdd a dderbyniodd y sialens y tro hwn oedd Elis Dafydd, Gruffudd Antur, Siôn Pennar ac Elan Grug Muse. Gallwch ddarllen eu cerddi drwy glicio yma.
2014
Unwaith eto, gosododd Llenyddiaeth Cymru her anferthol gerbron bedwar bardd ar 2 Hydref 2014, Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Y beirdd eleni oedd Casia Wiliam, Llŷr Gwyn Lewis, Gwennan Evans a Gruffudd Owen. Gallwch ddarllen eu cerddi i gyd yma.