#77 Diwrnod y Llyfr
Mae J.K Rowling a T. Llew
A D.J, Marx ac Orwell
Yn gyrru mlaen yn weddol dda
Er bod D.J. yn dawel,
Fe’u gwasgwyd nhw yn dynn, dynn iawn
Ar ochr chwith y silffoedd llawn.
Mae Saunders a Kate Roberts nawr
Yn cael tam’ bach o lonydd
Er bod Prysor, Nei a Pod
Yn codi sŵn digywilydd,
Yr unig un sy ddim yn iach
Yw Solzhenitsyn druan bach.
Mae’n waith cael trefen arnyn nhw,
Rhai precious yw awduron,
Ac mae’r prifeirdd ganmil gwaeth
Ar silffoedd y llenorion.
Ond wrth gau’r drws, mor ddifyr yw
Dychmygu bod y geirie’n fyw.