Category: Uncategorized
#99 Harri a Gwion
(fy neiaint)
Y mae Harri a Gwion
yn dod o hyd fel dwy don
i’n traeth, ac anturiaethau
a ddaw o nunlle i’r ddau.
Eu dwy wên ddrwg a’u gwg wych
a fynnaf weld yn fynych
yn y Bwthyn gobeithiol
sy’n ffau i’r ddau ar y ddôl.
Dau frawd glân hoff o lanast
ond dau frawd a dyf ar hast.
#92 Llandudoch
#80 Pumed aelod?
#77 Diwrnod y Llyfr
Mae J.K Rowling a T. Llew
A D.J, Marx ac Orwell
Yn gyrru mlaen yn weddol dda
Er bod D.J. yn dawel,
Fe’u gwasgwyd nhw yn dynn, dynn iawn
Ar ochr chwith y silffoedd llawn.
Mae Saunders a Kate Roberts nawr
Yn cael tam’ bach o lonydd
Er bod Prysor, Nei a Pod
Yn codi sŵn digywilydd,
Yr unig un sy ddim yn iach
Yw Solzhenitsyn druan bach.
Mae’n waith cael trefen arnyn nhw,
Rhai precious yw awduron,
Ac mae’r prifeirdd ganmil gwaeth
Ar silffoedd y llenorion.
Ond wrth gau’r drws, mor ddifyr yw
Dychmygu bod y geirie’n fyw.
#32 Bwci Bo Brook Street (Y Brwci Bo)
Yn crwydro’n tŷ ni, mae Bwci Bo
yn berwi’r tecell, yn crafu’r to,
yn yfed y llefrith, yn cuddio fy ‘sanau,
yn hambygio’r gath, yn agor y drysau,
yn cuddio’r goriadau ac yn mygu’r tân,
yn baeddu’r llestri oedd, wir yr, yn lân,
mae’n cerdded i’r tŷ mewn sgidiau mwdlyd,
mae’n gadael ei drôns ar lawr yn ddrewllyd,
mae’n dadwneud fy ngwaith cartref pan ‘does neb yn sbio…
Ond pam nad oes neb, sgwn i, yn fy nghoelio?
#29 Y goatee, gyda diolch i Osian
#2 DIY
Gwn wrth droi dalen wen fy nhŷ – na wn
Hen hanes y teulu,
Ond mi glywaf wrth grafu,
Haen o baent yn dweud y bu.
Ar eich marciau, barod, ewch!
Dyma gychwyn y 24 awr o her – tybed all y 4 bardd gyfansoddi 100 o gerddi?
Awgrymwch eich testunau yma – https://her100ogerddi.wordpress.com/eich-awgrymiadau-chi/
Awr i fynd
Dyma awr i fynd nes cychwyn yr her.
Ydych chi wedi awgrymu teitl / testun / thema ?
Cynfas Wag
Croeso i’r blog gwag hwn, ac mae’n wag am reswm da. Ar 4 Hydref 2012, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, bydd pedwar bardd yn ei lenwi â cherddi – 100 o gerddi i fod yn fanwl gywir. Bydd hyn oll yn digwydd mewn 24 awr.
Ymunwch yn yr Her 100 Cerdd drwy ddefnyddio’r hashtag #her100cerdd ar Twitter, mewn sgwrs ar Facebook, neu drwy ebostio i awgrymu themau, pynciau ac i gynnig geiriau o annogaeth i’r beirdd.
Gwyliwch y gofod,
Llenyddiaeth Cymru