#93 Hyddgen
Pan fo’r fawnog dan glogyn
A’r cymylau’n garpiau gwyn,
A lonydd dros Bumlumon
Yn barhad o’r nentydd, bron,
I droedio draw drwy y drain,
Yno daw catrawd Owain
At yr Hyddgen sy’n denu
beirdd y wlad mewn dillad du.
Pan fo’r fawnog dan glogyn
A’r cymylau’n garpiau gwyn,
A lonydd dros Bumlumon
Yn barhad o’r nentydd, bron,
I droedio draw drwy y drain,
Yno daw catrawd Owain
At yr Hyddgen sy’n denu
beirdd y wlad mewn dillad du.