#38 Gwrach Cors Fochno

Mae gwrach yng Nghors Fochno
A brwyn yn ei gwallt,
Mawn o dan ei hewinedd
A’i hanadl yn hallt.
Pan ddaw’r niwl fewn o’r môr
Mae hi’n codi’i phen,
Ac er gwaetha’r gwynegon
Yn ei choesau pren
Mae hi’n gadael ei chartre
Yn y siglen ddofn
A chrwydro’r pentrefi
Er mwyn codi ofn.
Peidiwch chi meiddio agor
Y llenni, da chi,
Rhag ofon y gwelwch
Ei llygaid gwyrdd hi.

Leave a comment

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s