#26 Y Wawr, 04.10.12

Weithiau, mi glywn aderyn
yn siglo’r goeden.
Dro arall, swn y ceir yn amlhau.
Ond heddiw gwyddwn,
heb gyffro o gwsg
bod y bryn yn borffor,
bod waliau’r tŷ yn gwelwi,
a bod y golau’ dringo’r llethrau,
wedi dilyn o’r gororau
lwybr duwies y dŵr,
nes sbecian uwch ei tharddle
dros Bumlumon
er mwyn gweld y môr,
ac y byddai’n gwagswmera
ar ei waered
drwy gydol y dydd.

Leave a comment

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s