Eich awgrymiadau chi

Gallwch gyfrannu syniadau am deitlau, themau, neu gomisiynau arbennig i’r beirdd ysgrifennu amdanynt ar y dudalen hon drwy adael sylwad isod.

Gallwch hefyd ebostio Llenyddiaeth Cymru gyda’r penawd ‘Her 100 Cerdd’

neu

Yrru neges ar Twitter @LlenCymru gyda’r hashtag #Her100cerdd

neu

Yrru neges i ni ar ein tudalen Facebook.

20 comments

  1. Hedd

    Pa ddyfodol sydd i Blaid Cymru ar ôl i’r Aelodau Cynulliad bleidleisio yn erbyn cyhoeddi cofnodion y pwyllgorau yn Gymraeg, ac yn erbyn cyhoeddi cofnod y cyfarfod llawn yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd? Be’ yw pwrpas Plaid CYmru erbyn hyn?

  2. Leila Salisbury

    Gewn ni gerdd i’r Ganolfan Sgiliau Astudio newydd sydd ym Mhrufysgol Bangor os gwelwch yn dda? Diolch.

  3. Mrs Jackson

    pwnc dwys – caru eich Cofi o wr gan wybod eich bod wastad yn dod yn ail i dim pel-droed Lerpwl

  4. Trystan Williams

    Beth am gerdd i ddisgyblion Gorllewin Caerdydd ac Ysgol Plasmawr a’r ysggolion syn ei bwydo?

  5. H&S

    Cerdd i ddiolch am botel o sloe gin ar ben blwydd yn 50. Diolch bois, mi ddylech fod yn un o ryfeddodau Cymru!

  6. Dic

    Da iawn Fechgyn, a diolch i Eurig am y gerdd i’w glwb peldroed; well iddo sgorio un neu ddwy y tro nesa iddo
    chwarae ar gae’r Siop.

  7. Llywelyn

    Beth am roi’r cerddi ar drwydded CC-BY-SA fel y gall Wicitestun a Wicipedia eu defnyddio (a phawb arall!). Y cwbwl sydd angen ei wneud ydy rhoi’r CC-BY-SA ar waelod y dudalen.

    ON Wedi creu erthygl ar Wicipedia am Iwan, daw 3 arall cyn hir! Gweler:

    http://cy.wikipedia.org/wiki/Iwan_Rhys

    Llywelyn

    • Osian Rhys Jones

      Smai Llywelyn!
      Mi rydw i’n cael fy mherswadio yn ara bach i ddefnyddio CC-BY-SA, a da oedd cael sgwrs fer am y peth yn y Ffair Awduron ddydd Sadwrn!
      Dod yn gyffyrddus â’r gwahanol fathau CC-BY-SA, CC-BY-NC-SA ac ati ydi’r gamp yndê!
      Dwi ddim yn meddwl bod gwrthwynebiad i adnoddau fel Wicipedia wneud defnydd o’r cerddi yn fan hyn, gyda lwc mi allwn drefnu newid trwydded!

      O

  8. Llywelyn2000 a Robin Owain!

    Haia! Bendigedig!

    Rhoi yn ol i’r hen iaith
    Ei thwf, ei nerth a’i hafiaith!

    CC-BY-SA mae’r Cynulliad yn ei ddefnyddio i gofrestru pob ffotograff swyddogol; hwnnw hefyd sy’n cael ei dderbyn gan Wicipedia Cymraeg!

Leave a comment

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s