Category: Iwan

#100 Y Ganfed Gerdd

Heddiw’n grwn croniclwn ni’r
Hysterics i greu stori.

I bedwar ban o’n hannedd
Drwy’r byd heb symud o’n sedd.

Ar dramp aed i droedio’r we
A’r hewl ar goll yn rhywle.

Diolch gan lu’r canu caeth
I’n holl noddwyr llenyddiaeth!

 

Wedi ei chyd-gyfansoddi gan feirdd Her 100 Cerdd

#99 Harri a Gwion

(fy neiaint)

Y mae Harri a Gwion
yn dod o hyd fel dwy don
i’n traeth, ac anturiaethau
a ddaw o nunlle i’r ddau.

Eu dwy wên ddrwg a’u gwg wych
a fynnaf weld yn fynych
yn y Bwthyn gobeithiol
sy’n ffau i’r ddau ar y ddôl.

Dau frawd glân hoff o lanast
ond dau frawd a dyf ar hast.

#89 Maes yr Yrfa

(ar gais Carys Edwards)

Ym Maes yr Yrfa bum i yn fy iaith
fy hun yn ei gwersi
ac yma’r Gymraeg imi’n
iaith yr iard rhwng naw a thri.

#82 Blinder yr her

Rwyf innau wedi blino,
mae fy mhen yn teimlo’n drwm,
mae’r feiro bellach bron yn sych
ac mae’r eirfa’n mynd yn llwm.

Mae f’ysgwyddau’n dynn fel lleder,
mae’r coffi di rhedeg mas,
ond er hyn oll rwyf innau’n
dal i drio fy ngorau glas.

Rhaid imi ddal ati i sgwennu
oherwydd, nefoedd wen,
petaem ni’n methu cyflawni’r her
bydd BARDDONIAETH YN DOD I BEN!

#50 Datblygu

(ar gais Lleucu Siencyn)

Gwn fod ar y ddalen wen
ysgrifen daclus,
y paragraffau wedi’u drafftio ganwaith,
pob un gair wedi’i flasu a’i dderbyn
am bob ugain a boerwyd i’r bwced.

A gwn fod ôl llinell bren mesur
a phensel wedi’i rhwbio
o dan bob brawddeg berffaith lorweddol.

Gwn hefyd fod y cyfan cyn wired â’r wawr
ac y byddai’n codi’n llachar
dros orwel plygiad y ddalen
petawn i’n ei hagor.

#48 Gwneud Nigella

(‘dilyn rysailt Nigellissima’ ar gais Delyth Edwards drwy e-bost)

Rwy’n ymhél â Nigella yn y llofft,
ar y llawr ‘ny lolfa,
dros nos ‘ny tŷ drws nesa,
ond ‘nei gwneud ‘ny gegin? Na!

#33 Technoleg

Mae gen i fil o ffrindiau
yn eistedd ar fy nghôl,
a faint sydd ar y soffa
wrth fy ymyl? Bygyr ôl.

Ond eto, os ydw i eisiau
gwneud cais am gerdd drwy’r we,
fel Rhys Aneurin yntau,
technoleg sy’n ok!

#30 Cerdd Groeso i Gŵyl Arall

Ydi, mae’r haf yn brysur,
a dy galendr yn llawn
o sgribls blêr, deniadol,
ac amser yn werthfawr iawn.

Ac oes, mae gwyliau eraill
ar hyd a lled y wlad
mewn neuadd neu bafiliwn
neu mewn gardd gefn ar stad.

Ond yr ŵyl yn nhref Caernarfon
yw’r orau drwy’r flwyddyn gron.
Tyrd dithau, gyfaill, draw i weld
nad jest Gŵyl Arall yw hon.

#28 Gyrru drwy storom

Os yw sterics y storom
a’i hen drics drwy’r awyr drom
yn gwasgu’n dynn amdanaf
innau am oriau, mi af
eto ar daith drwy’r tir du
a thrwy’r hin a’i tharanu.

Daw weipar bob yn dipyn
drwy’r glaw a’i llaw’n clirio’r llun;
gyrru’n wyllt drwy’r dagrau wnaf
yn ei sgil hyd nes gwelaf
awyr las ar ben draw’r lôn
a haul i godi ‘nghalon.

#19 Dôl Werdd

(ar gais Del a Linda Rhys; i Brian Evans, Dôl Werdd,
ar ei ymddeoliad fel Prifathro Ysgol Gynradd Llanddarog)

Heddiw’n wir, o fuddsoddi’n iach ym mhlant
fy mhlwyf fy hun, bellach
gwelaf i, o’r ysgol fach,
Ddôl Werdd o elw harddach.

#15 Rhwng tir a môr

(Ar gais @gorwelowen drwy Twitter, gan ymateb i’r sŵn yn y ddolen)

I’r llain hir rhwng tir a môr
pan fyddo’r llanw’n uchel
daw pob un i ganu’n gôr.

A’r holl ddrudwy bychain sydd
yma eto’n canu’n gaeth
wrth i’r tonnau dorri’n rhydd.

Gwyliaf hwy yn llamu’n llon.
Defod ers cyn dyfod dyn
yw eu dawns uwch brig y don.

A wyf i, rhwng môr a thir
a’r tywod rhwng bysedd traed,
heno’n gwrando ar y gwir?

#8 Neuadd Deg

(i gartref newydd Gwilym a Hefina ym Mhorth-y-rhyd)

Tŷ a luniwyd fel telyneg yw hwn
dan haen o ramadeg,
a geiriau bob yn garreg
sy’n stôr dan do’r Neuadd Deg.

#1 Jiw jiw

Mae pobol Cwm Gwendraeth yn hoffi
dweud “dishgled o de” a “shwt wyt-ti?”
ond mae un o’r criw
yn dal i ddweud “jiw”
er ei fod e yn byw yn nhre’r Cofi.