Category: Eurig

#100 Y Ganfed Gerdd

Heddiw’n grwn croniclwn ni’r
Hysterics i greu stori.

I bedwar ban o’n hannedd
Drwy’r byd heb symud o’n sedd.

Ar dramp aed i droedio’r we
A’r hewl ar goll yn rhywle.

Diolch gan lu’r canu caeth
I’n holl noddwyr llenyddiaeth!

 

Wedi ei chyd-gyfansoddi gan feirdd Her 100 Cerdd

#96 I Jac a Iona ar eu Priodas Ruddem

Ar ras i Bant-glas mae’r glêr – fel erioed,
Fel rhyw haid am swper,
Ond yntau’r mab o Aber
A’i fawl o hyd yn aflêr.

Mae’r ŵyr yn hwyr â’i eiriau – fel erioed,
Yn flêr iawn ei odlau,
Ond mae’n ffaith – am unwaith mae
Ei dôn yn un â’i dannau!

Torrwch i Jac y gacen – a chanwch
I Iona yn llawen,
Mae pawb yma gyda gwên
A’u nai yn llawn o awen!

Jac a Iona’n y canol – a’r teulu’n
Reit dalog yn canmol,
Dewch, dawnsiwch heno bobol
Dan wers y dyn ar y stôl.

Ddeugain mlynedd i heddiw – fe’u hunwyd
A’u cyfannu’n unlliw,
Ymwroli’n amryliw,
I’r ffrind a’r hoff heno’n driw.

Boed hapusrwydd a llwyddiant – ichi’ch dau,
Ewch o’ch dydd i’ch haeddiant,
A rhoi yma’n llawn rhamant
Un cwrs at yr hanner cant!

#81 I Chwaer Fach Leusa

Pwy sy’n gwenu’n ddrygionus,
Yn rhyw hoff o Meic a Rhys
A Brit? Pwy sy’n gampwraig bro
Ar rysêt y risotto?

Pwy’r ferch fach â’r gath fach, fân
Â’i swêd a’i sanau sidan?
Pwy’r ferch wen ar dad heno
Sy’n chwarae triciau bob tro?

I Leusa, hi yw’r dlysaf -
Siŵr iawn, hi yw Seren Haf!

#74 Heno

Heno, dewch am drafodaeth – gynnes iawn,
Gwên a sŵn cymdogaeth,
A mwynhau holl gwmnïaeth
Soffa hir iawn a sgwrs ffraeth.

#73 I Glwb Pêl-droed Trawscoed

(ar gais Dic Evans)

Ewch, da chi, i Wembley wyn – prynwch focs
Yn Ibrox arobryn,
Cae Ras a’r aceri hyn -
Pa hud fel Ca’ Siop wedyn?

Yn y fan mae Barca’n bod – Iniesta
Ar lan Ystwyth hynod,
Xavi a Dani sy’n dod
A Messi yn ymosod.

Eilunod ar y linell – yn y gôl
Arwyr gwych, ac ambell
Un o bwys na bu ei well
I Drawscoed ar yr asgell.

Ond o nawr nes daw’n hwyrnos – ar y lôn,
Ar y lein bob wythnos,
Yn y ddaear yn aros
Bydd Peter Bonner, y bos.

20121004-184050.jpg

#60 I’r Glas-ddarlithwyr

(ar gais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

Ddarlithwyr! Nac anghofiwch chi
Eich bod, un tro, o’n hochor ni,
Cyn clod a mawl a pharch a bri,
Yn un o’r haid
O bobol iau a dalodd ffi
Am ddysg, o raid.

Boed hynny’n gysur mawr i ddyn,
Na fedrwn ni, er cynddrwg llun
Sy arnom, fod lot gwaeth na’r un
Sy ger ein bron,
Sy’n gorfod aros bellach ar ddihun
Drwy’r ddarlith gron.

#56 Yr Arolwg

(ar gais Siân Harris)

Athrawon ar eu cythlwng
A’r pennaeth fawr ddim gwell,
Yr hen lanhawr hynaws
Yn crio yn ei gell,
Daeth llythyr trwm, trwm iawn o’r Sir -
‘Bydd Arolygwyr draw cyn hir.’

Mae’r plant yn rhyw synhwyro
Bod rhywbeth ddim yn iawn,
Athrawon cynorthwyol
Yn sibrwd drwy’r prynhawn -
‘Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd …
Mae’r Arolygwyr ar eu ffordd!’

O fore gwyn hyd hwyr y nos
Mae’r ysgol ar ddihun,
Y gŵr a’r plant yn mopio’r llawr
A’r ci yn paentio llun,
Ond bydd hi’n ysgol wych pan ddaw
Yr Arolygwyr ‘ma am naw.

#41 ‘One Nation’

(ar gais Golwg)

Ai Dave ai Ed a fu, wir,
Wrth ei waith areithio hir
Yn creu pont i uno’n tir?

Un genedl, un ddisgynneb,
Un hen wên, un wlanen wleb,
Un dyn o wellt nad yw’n neb.

#18 I Ysgol Farddol Caerfyrddin

Â’r Tanerdy’n ail-lunio
Ambell stafell, nid oes do
Dros y beirdd yn y dre, sbo.

Ac fe fu’r Tanerdy’n hir
Yn llety hardd, yn well tir
Na llawer gwter, ‘na’r gwir.

Bu’n Ddinefwr i’w twrw,
Yn Gaer â’i llond o gwrw,
Yn Ddin Eidyn iddyn nhw.

Ble’n awr heb le’n awr y blŵs?
Ble’n awr heblaw hen warws?
Ddoe heb ddrat, heddiw heb ddrws.

Rhowch dŷ o’r gwter, werin,
I gynnau tân i gan tin
Ysgol Farddol Caerfyrddin!

#11 Cacen Battenberg

(ar gais Julia Davage)

Ffenest sgwâr y pedwar paen – pinc-felyn,
Pwnc i fawl, gwenithfaen,
Byrbryd hud fel tywodfaen,
Be’ well na’r dafell ar daen?

20121004-035407.jpg

#10 Glaw

(ar gais Shân Morgan)

Smwclaw, oes, ym mae Kowloon – un gawod
Dros Skye a Manhattwn,
Glaw mân ym mhob lle’n Annwn -
Ond yma’n saff daw monsŵn!

20121004-030411.jpg

#5 I Ddawnswyr Nantgarw

(ar eu taith i ŵyl ddawns yn Ne Corea ddiwedd y mis)

Boed difraw’r daith drwy’r awyr
A boed eich taith faith yn fyr,
Ac yn wir, yn Nhír na nÓg,
Boed yno groeso gwresog.

Boed pob un droed ar redeg
Ar hast wyllt yn un rhes deg,
A’i hannel hi fwy neu lai’n
Unionsyth, eich cri’n unsain,
Boed di-stop sbîd y stepio,
Drachefn, boed trefn i bob tro.

A boed i’r De Coreaid
Gyda ni’r Cymry’n un haid
Lawenhau pan welan’ nhw
Hetiau gwerin Nantgarw!

20121004-030705.jpg