Yr Her

Tîm y Glêr gipiodd y fuddugoliaeth yn erbyn tîm Y Tir Mawr yn ffeinal clos rhaglen Talwrn y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012. Ond ar 4 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth bydd sialens arall yn wynebu’r pedwar bardd.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn herio tîm Y Glêr i gyfansoddi 100 o gerddi newydd sbon, a hynny mewn 24 awr yn unig.

Does dim rheolau – gall y cerddi fod yn rhai caeth neu yn rhydd, yn rhai hir neu’n rhai byr, a bydd y beirdd yn ymgymryd â’r her o bob cwr o’r wlad  - un yng Nghaerdydd, un yng Nghaernarfon a dau yng Ngheredigion.

Bydd yr her yn cychwyn am hanner nos, yn union ar ôl i’r calendr droi’n 4ydd Hydref, ac yn gorffen am hanner nos y noson ganlynol. Darllenwch y cerddi wrth iddynt gael eu postio fesul un, boed mewn ysgrifen, fideo neu glip llais, drwy gydol y dydd.

Ond mae angen help y cyhoedd ar Y Glêr – ymunwch yn yr her drwy awgrymu testunau a themâu, neu drwy yrru geiriau o anogaeth drwy drydar @LlenCymru a defnyddio’r hashtag hanfodol #Her100Cerdd neu drwy gysylltu â ni dros Facebook (LlenCymruLitWales), neu drwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pennawd ‘Her 100 Cerdd’.

 

 

Leave a comment

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s