#71 Rhwydi
Beth ddaliwyd gan y rhwydi
fel y nos a daflon ni
ar y dŵr i ddrysu’r don
a’i hidlo yn afradlon?
A godwyd un pysgodyn
O’u cysgod i gychod gwyn?
Neu ai gwymon aflonydd?
Gwallt tywyll y cewyll cudd.
Yno, fe’n daliwyd ninnau
Heb weld mor wag ydi’r Bae,
Dan awyr lwyd a rhwydi
Ein hoes diedifar ni.
@LlenCymru Thema gweledol i ysgogi awen y beirdd! #her100cerdd http://t.co/1EtW9GNh—
Emyr Young (@EmyrYoung) October 03, 2012